Angen Gwirfoddolwyr
Os ydych yn sôn am Sinema Brynaman bydd gan y rhan helaeth o drigolion Dyffryn Aman atgofion melys o fynd i'r lle arbennig hwn sy llawn hanes a
thraddodiad.
Yn ddiweddar, dathlodd y sinema, sydd â system dafluniad o'r radd flaenaf, sain Dolby ac ailgyflwyniad y "seddi cwtsio", ei 80fed penblwydd. Mae gan y sinema swyn y 1920au gyda chysur yr unfed ganrif ar hugain.
Er, nid yw'r rhan fwyaf o bobl yn ymwybodol bod y sinema yn cael ei redeg gan wirfoddolwyr. Felly, er mwyn sicrhau bod y sinema yn parhau i adlonni cenedlaethau i ddod, rydym yn edrych am bobl a all roi ychydig o'u hamser i gynnal yr adnodd hwn sy'n cael ei redeg gan y gymuned.
Rydym hefyd yn cynnig lleoliadau gwirfoddoli ar gyfer pobl ifanc sy'n cymryd rhan yn rhaglen DofE.
Os hoffech chwarae rhan weithredol yn nyfodol y sinema neu os hoffech sgwrs, cysylltwch â ni ar 01269 823232.