Amdanom

    Dechreuodd Neuadd Gyhoeddus a Sinema Brynaman yr holl ffordd yn ôl yn y 1920au pan oedd yn cael ei hariannu gan system "check-off", lle'r oedd cyfraniadau wythnosol yn cael eu tynnu oddi wrth gyflogau'r glowyr, i adeiladu'r neuadd ar y cychwyn ac yna i'w rhedeg.

    Gwnaeth gwaith adeiladu Sinema Brynaman gychwyn ym 1924 gyda dros 1,100 o seddi. Cafodd ei ddodrefnu trwyddi draw gyda seddi gogwyddo wedi'u clustogi mewn hen felfaréd aur.

    Cafodd y llwyfan 20 tr. gan 60 tr. ei adeiladu gyda 4 stafell newid o'i dan. Roedd lolfa wedi'i lleoli o dan y llyfrgell ac roedd yn cynnwys 12 cadair freichiau a 3 setî lle'r oedd glowyr yn gallu ymlacio neu chwarae cardiau o gwmpas sawl bwrdd chwarae derw. Roedd stafell biliards uwchben y llyfrgell.


    Cafodd yr agoriad swyddogol ei gynnal ar y 15fed o Fai 1926, a dechreuodd y sinema gan ddangos ffilmiau distaw tan y 1930au, pan wnaeth y "talkies" ymddangos. Heddiw, mae'r neuadd hefyd yn cynnal sioeau byw, gan ganiatáu cast Galaxy Theatre Arts i brofi'r wefr o berfformio ar lwyfan.

    Mae Neuadd Gyhoeddus Brynaman wedi parhau i ddatblygu a thyfu gan gadw lan gyda'r holl newidiadau i fwrw'r diwydiant ffilm dros y blynyddoedd. Mae'r llwyddiant hwn lawr i waith caled rheolwyr fel Brian Harries, y rheolwr a thaflunydd presennol, a ymunodd yn 1986, a'r pwyllgor o wirfoddolwyr sydd yn edrych ar ôl busnes dydd i ddydd y sinema.



    (Cyfieithu gan Alan Davies)

     
    Soundtracks
    Superman